OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 522 (Cy. 63)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae'n cael effaith yng Nghymru.
Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun sy'n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau'r cyfraniadau yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i'r Cynllun.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 522 (Cy. 63)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
Gwnaed 4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992
2. Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992([3]) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae'n cael effaith yng Nghymru, wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
3. Yn lle'r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 rhodder y Tabl canlynol—
“Pensionable Pay |
Contribution rate from 1 April 2014 |
Up to and including £15,000 |
11.0% |
More than £15,000 and up to and including £21,000 |
12.2% |
More than £21,000 and up to and including £30,000 |
14.2% |
More than £30,000 and up to and including £40,000 |
14.7% |
More than £40,000 and up to and including £50,000 |
15.2% |
More than £50,000 and up to and including £60,000 |
15.5% |
More than £60,000 and up to and including £100,000 |
16.0% |
More than £100,000 and up to and including £120,000 |
16.5% |
More than £120,000 |
17.0%.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2014
([1]) 1947 p.41. Diddymwyd adran 26 gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel “the Firemen’s Pension Scheme” ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)). Drwy erthygl 4 o'r offeryn hwnnw newidiwyd enw'r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru).
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru.